P-05-793 Band eang cyflym i bentref Llangenni
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Llangenny Village residents ac ystyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor yn ystod Ionawr 2018, ar ôl casglu 72 o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, preswylwyr pentref Llangenni ym Mhowys, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rheoli eu contract am fand eang cyflym yng Nghymru gyda BT mewn modd fel y bydd pentref Llangenni wedi cysylltu â chyflymder uchel erbyn 31 Rhagfyr 2017.
Gwybodaeth ychwanegol:
Ar hyn o bryd, mae preswylwyr yn ein pentref yn profi colli gwasanaeth yn rheolaidd neu gyflymder mor isel â 0.01Mb/s. Mae llawer o breswylwyr yn rhedeg busnesau neu sefydliadau gwirfoddol o adref ac mae angen band eang cyflym arnynt. Mae'r gwasanaeth presennol yn gwbl annerbyniol.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad